Mater - cyfarfodydd
Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 6)
Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 69)
69 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) PDF 290 KB
Pwrpas: Darparu'r wybodaeth ar Fis 6 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 69 PDF 91 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 69 PDF 82 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 69 PDF 173 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2021/22 ers ei gosod fis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2021), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol amcanol.
Mae’r Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £2.174 miliwn yn y gyllideb yn ystod y cyfnod, sy’n cynnwys:
- Cynnydd net o £2.435 miliwn yn y rhaglen (Cronfa’r Cyngor (£6.200 miliwn), y Cyfrif Refeniw Tai (£3.765 miliwn))
- Swm i’w ddwyn ymlaen i 2022/23, wedi’i gymeradwyo ym mis 4 (£4.099 miliwn o Gronfa’r Cyngor)
- Arbedion a nodwyd ym Mis 6 (£0.510 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor)
Roedd y gwariant gwirioneddol yn £37.698 miliwn.
Mae’r derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn ail chwarter 2021/22, ynghyd ag arbedion a nodwyd, yn dod i £1.352 miliwn. Mae hynny’n rhoi gwarged rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf o £4.147 miliwn ym mis 6 (o gymharu â gwarged o £2.795 miliwn ym Mis 4) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2021/22-2023/24, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllido eraill.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y tablau yn yr atodiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen;
(c) Cymeradwyo’r dyraniad ychwanegol.