Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report

Cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 65)

65 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 329 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21 drafft i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ac eglurodd fod angen i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adolygu Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.  Cafodd ei ystyried yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2021 ac yn y Cabinet ar 21 Medi 2021.

 

Roedd crynodeb o’r prif bwyntiau yngl?n â’r Adroddiad Blynyddol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad eglurhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r holl swyddogion a oedd ynghlwm â pharatoi’r adroddiad, ac am ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet.  Eglurodd mai’r dylanwad mawr ar economi’r DU yn 2020/21 oedd y pandemig Covid-19.  Fe ostyngodd Banc Lloegr y Gyfradd Banc i 0.1% a darparodd Llywodraeth y DU amrywiaeth o fesurau ysgogi ariannol i gefnogi’r economi drwy’r cyfnod digyffelyb hwnnw.  Roedd adran 2 yn yr adroddiad yn darparu adolygiad economaidd a chyfraddau llog llawn ar gyfer 2020/21.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor cyfrifol a oedd yn craffu ar y Strategaeth a’r Polisïau Rheoli’r Trysorlys, cadarnhaodd y Cynghorydd Dolphin ei fod wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf lle cafodd ei gefnogi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd gan North East Wales (NEW) Homes yr un mynediad at y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, felly fe wnaeth y Cyngor fenthyca ar eu rhan gan gynnwys cyfradd fechan ychwanegol a oedd yn darparu ffrwd incwm ar gyfer yr awdurdod.  Mewn ymateb i gwestiwn arall am gyfraddau llog, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’r adroddiadau monitro chwarterol yn darparu gwybodaeth fanwl lawn.  Ynghlwm a gweithgarwch buddsoddi, gofynnodd y Cynghorydd Peers beth oedd yr elw ar fuddsoddiadau.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r nod bob amser oedd gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi a bod y cyfleoedd gorau’n cael eu hystyried ar y pryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21.