Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6)
Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 68)
68 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) PDF 120 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 68 PDF 104 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 68 PDF 146 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 68 PDF 23 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 68 PDF 46 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6), eitem 68 PDF 94 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad misol ar gyllideb Cronfa'r Cyngor a chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu rhagolwg o sefyllfa derfynol blwyddyn ariannol 2021/22.
Mae’r adroddiad yn nodi y bydd y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r adenillion yn sgil cynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
- Gwarged gweithredol o £0.227 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.045 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 5, sef £0.182 miliwn
- Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £6.322 miliwn
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.755 miliwn yn uwch na’r gyllideb
· Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.717 miliwn
Mae yna bwysau sylweddol o hyd ar leoliadau y tu allan i’r sir, yn sgil effeithiau blwyddyn gron lleoliadau newydd a wnaethpwyd yn 2020/21, yn cynnwys nifer o leoliadau drud a gytunwyd arnynt fis Mawrth ar ôl pennu’r gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae cyfraniad o £0.500 miliwn wedi’i wneud o Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol, sy’n gadael gorwariant rhagamcanol o £0.851 miliwn ar gyfer gweddill y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n debygol o gynyddu gan fod 6 mis arall o’r flwyddyn ar ôl.
Rydym yn aros am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad yngl?n â £42.72 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar draws Cymru. Byddai’r grant yn cefnogi Gwasanaethau Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, taliadau uniongyrchol i ofalwyr di-dâl, ymyrraeth gynnar ac atal, ynghyd â gwella hysbysebu a recriwtio ar gyfer swyddi gofal cymdeithasol. Byddai modd neilltuo’r cyllid ar gyfer pwysau ariannol presennol y portffolio, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu ar y sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawniad arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn; cyllid brys, cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.
Eglurodd y rhesymau dros y symudiad ffafriol yn y gorwariant rhagamcanol, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol ragamcanol ar gyllideb 2021/22.