Mater - cyfarfodydd
Procurement of Voids Contractor Framework
Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (eitem 58)
Fframwaith Caffael Contractwr Unedau Gwag
Pwrpas: Cymeradwyo caffael contractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cwblhau unedau gwag yn ei eiddo tai.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Gweddarllediad ar gyfer Fframwaith Caffael Contractwr Unedau Gwag
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael nifer o gontractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cyflawni gwaith mawr ar unedau gwag ac felly sicrhau y gallai’r gwasanaethau gwrdd â’u targedau ar gyfer rheoli eiddo gwag a sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu hailosod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r gwaith i gaffael nifer dethol o gontractwyr drwy gytundeb fframwaith er mwyn cwblhau gwaith mawr ar unedau gwag mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.