Mater - cyfarfodydd

Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW)

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 30)

30 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) pdf icon PDF 112 KB

Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ar gyfer 2022. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr IRPW wedi anfon yr Adroddiad Blynyddol drafft i Gynghorau Sir ar 29 Medi, yn gofyn am sylwadau erbyn 26 Tachwedd 2021.  Roedd angen i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau a gafodd ar y drafft cyn cyflwyno fersiwn derfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2022.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad drafft, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr IRPW yn cynnig codi cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif Gynghorau yn 2021/22 a fydd yn gyfanswm o £16,800 o 9 Mai 2022.  Cynigiwyd codi cyflog Aelodau Cabinet, Arweinwyr y Cyngor a'u dirprwyon hefyd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Adroddiad Blynyddol drafft IRPW wedi'i ystyried gan Arweinwyr Grwpiau mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref, a manylwyd ar eu barn gyffredinol ym mharagraff 1.18 yr adroddiad.  Roedd y Cynghorydd Neville Phillips, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi rhannu arsylwadau rhagarweiniol ac adborth gan Arweinwyr Grwpiau a chynrychiolwyr yr IRPW mewn cyfarfod ymgynghori a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd.  Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am farn y Pwyllgor ar y cynigion a wnaeth yr IRPW yn yr adroddiad drafft ar gyfer 2022 ac wedi hynny.

 

Mynegodd y Cynghorydd David Healey nifer o bryderon a chynigiodd fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar ran y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, yn ysgrifennu at yr IRPW i gadarnhau barn gyffredinol yr Arweinwyr Grwpiau fel y nodir ym mharagraff 1.18 yr adroddiad.  Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers hyn.  Pan gafwyd pleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Dylai’r Pwyllgor nodi’r Penderfyniadau a wnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 202/21 yn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23; a

(b)       Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu at yr IRPW ar ran y Pwyllgor i gymeradwyo barn gyffredinol yr Arweinwyr Grwpiau fel a ganlyn:

 

  • Mae’n siomedig bod yr IRPW wedi caniatáu i’r sefyllfa ddatblygu i’r fath raddau bod cynnydd mor fawr i gyflogau Aelodau bellach yn angenrheidiol; a

 

  • Dydyn ni ddim yn credu y dylai’r cynnydd fod mewn un cam, ond

yn hytrach, fesul camau yn ystod oes y Cyngor nesaf gan sicrhau hefyd bod y

cynnyddrannau hynny’n ystyried y lefelau chwyddiant yr oedd yn bodoli ar y pryd