Mater - cyfarfodydd
Flintshire Housing Need Prospectus
Cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 16)
16 Prosbectws Angen o Ran Tai Sir y Fflint PDF 106 KB
Pwrpas: Cefnogi cyflenwi tai fforddiadwy, siapio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol trwy osod beth yw blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol a darparu canllaw o ran yr angen am dai ym mha ardaloedd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Flintshire Housing Need Prospectus, eitem 16 PDF 653 KB
- Enc. 2 for Flintshire Housing Need Prospectus, eitem 16 PDF 405 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Prosbectws Angen o Ran Tai Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Gwasanaethau Rhaglen Tai y Prosbectws o Anghenion Tai ar y cyd, a fyddai’n llywio Rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol.
Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol ddatblygu Prosbectws o Anghenion Tai. Nod y prosbectws oedd llywio cyflenwi tai fforddiadwy, llunio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol trwy nodi beth oedd blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol a darparu canllaw am pa fath o dai oedd eu hangen ym mha leoliadau.
Dywedodd y Prif Swyddog fod LlC wedi dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol ar sail swm pro-rata’r dyraniad Cymru gyfan. Dywedodd fod y dyraniad ar gyfer Cyngor Sir y Fflint wedi cynyddu’n sylweddol ar gyfer 2021/22.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod cynnwys Prosbectws o Anghenion Tai Sir y Fflint yn cael ei nodi.