Mater - cyfarfodydd

Progress of Empty Homes Scheme in Flintshire

Cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 18)

18 Cynnydd y Cynllun Cartrefi Gwag yn Sir y Fflint pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cartrefi Gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned adroddiad i ddarparu trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaethau Cartrefi Gwag. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â’r Swyddog Datblygu a oedd yn cwmpasu’r canlynol:         

 

  • cyd-destun
  • cyflawniadau ers 2019
  • astudiaethau achos

 

Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y cartrefi gwag fel pe bai’n uchel, ond ychwanegodd fod safon y gwaith ailwampio’n ardderchog. Ychwanegodd yr Uwch Syrfëwr fod y ffigurau ar gyfer nifer yr eiddo gwag wedi dod o ffigurau Treth y Cyngor. Dywedodd hefyd eu bod wedi defnyddio ymchwilydd preifat ardderchog i nodi perchnogion cartrefi, a bod landlordiaid preifat yn aml yn rhan o’r datrysiad.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Wisinger am eiddo gwag yn ardal Glannau Dyfrdwy, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod gwaith yn mynd rhagddo ar nodi datrysiad i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio eto.  

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Adele Davies-Cooke, dywedodd yr Uwch Syrfëwr fod pob eiddo’n cael ei werthu mewn arwerthiant i sicrhau’r pris gorau posibl ar unrhyw adeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies a oedd sylw’n cael ei roi i adeiladau gwag ynghyd â chartrefi gwag. Dywedodd yr Uwch Syrfëwr mai dim ond eiddo preswyl gwag oedd yn cael eu targedu oherwydd nad oedd digon o adnoddau yn y tîm i fynd i’r afael ag eiddo masnachol. 

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Veronica Gay a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.