Mater - cyfarfodydd
Empty Homes (E&E OSC)
Cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 33)
Rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cartrefi Gwag
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Amddiffyn y Gymuned a Busnes adroddiad i ddarparu trosolwg o'r gwaith a wneir gan y Gwasanaethau Cartrefi Gwag. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â'r Swyddog Datblygu Cartrefi Gwag a oedd yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyd-destun
- Cyflawniadau ers 2019
- Astudiaethau achos
Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i'r Rheolwr Amddiffyn y Gymuned a Busnes am safon uchel ei hadroddiad.
Gwnaeth y Cynghorydd Chris Bithell sylwadau ar broblem eiddo gwag a oedd wedi dadfeilio a'r angen i ddod ag o yn ôl i ddefnydd cyn gynted â phosibl i fynd i'r afael â'r angen am dai.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chefnogi cynnwys yr adroddiad.