Mater - cyfarfodydd

Draft Statement of Licensing Policy

Cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 8)

8 Ddatganiad Drafft Polisi Trwyddedu pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Aelodau ynghylch y gofyniad yn Neddf Trwyddedu 2003 i adolygu’r Polisi Datganiad Trwyddedu, ac i roi copi o’r Polisi Drafft ar gyfer 2021 – 2026 i’r Aelodau ar ôl cyfnod o ymgynghori.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, wrth gyflwyno’r adroddiad, fod Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd.  Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015.   Roedd y Polisi Drafft ar gyfer 2021–2026 wedi’i atodi, a oedd yn cynnwys ymatebion yn dilyn cyfnod ymgynghori. Byddai’r ddogfen hon, ar ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ei chymeradwyo, wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn i gael ei chymeradwyo’n derfynol.

 

            Cynhaliwyd adolygiad trylwyr gyda swyddogion o Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, gan roi ystyriaeth i unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth, canllawiau ac arferion da a oedd yn galluogi cysondeb ar draws y rhanbarth lle bo modd.  Eglurodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y chwe sir yng Ngogledd Cymru i gyd yn wahanol ond roedd y Polisïau Trwyddedu ar yr un fformat a gallent gael eu haddasu i ddiwallu anghenion pob Awdurdod Lleol.   Roedd y Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2026 i’w weld yn Atodiad A, gyda’r newidiadau gwreiddiol cyn ymgynghori i’w gweld yn goch a newidiadau ar ôl yr ymgynghoriad mewn glas.  Rhoddodd wedyn grynodeb o’r newidiadau roedd hi wedi’u gwneud.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wedyn at y broses ymgynghori a chadarnhaodd fod y broses ymgynghori gywir wedi’i dilyn.  Roedd dau ymateb wedi’u derbyn gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolydd i Ddeiliaid Trwydded Eiddo.  Roedd manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ystyriaeth yr Awdurdod Trwyddedu i’r ymatebion hynny i’w gweld yn Atodiad B.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd yr Aelodau at y Datganiad Polisi Trwyddedu ac aeth drwy’r ddogfen fesul tudalen, yn gofyn a oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau penodol.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Lloyd at bwynt 3.4 yn yr amcanion Trwyddedu a oedd yn cyfeirio at ddarparu cyfarpar cymorth cyntaf ac ystafelloedd cymorth cyntaf mewn lleoliadau mwy a gofynnodd a ddylid ei gwneud yn orfodol bod peiriannau diffibrilwyr ar gael, yn hytrach nag fel ystyriaeth.  Yn ateb, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod hyn wedi’i amlygu’n las gan ei fod wedi’i newid yn dilyn sylw gan gynrychiolydd i eiddo trwyddedig.  Teimlai’r cynrychiolydd ei fod yn ormod i’w ofyn. Er bod diffibrilwyr yn y gymuned, dim ond un clwb nos oedd gan Sir y Fflint.  Cadarnhaodd mai ond trwyddedau newydd y byddai’r polisi’n ei effeithio, nid rhai sy’n bod eisoes, gan eu bod nhw wedi’u rhwymo gan y polisïau trwyddedu a oedd mewn grym wrth ymgeisio.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Small, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd unrhyw newidiadau’n cael eu cynnig i’r broses rhybuddion am ddigwyddiadau dros dro.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd White yngl?n â’r amserlen ymgynghori, rhoddodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu drosolwg o’r broses.  Eglurodd fod y cyfnod wedi’i estyn er mwyn caniatáu rhagor o amser i alluogi’r cynrychiolwyr hynny a oedd yn cau i lawr am gyfnod bob blwyddyn ym mis Awst i ymateb.  Pan anfonwyd y ddogfen, roedd y newidiadau wedi’u hamlygu mewn coch i’w gwneud yn haws i’r rhai oedd yn ymateb.

 

            Aeth  ...  view the full Cofnodion text for item 8