Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy / Budget 2022/23 - Stage 2 - Overview & Scrutiny Responses

Cyfarfod: 14/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 44)

44 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig / Cyllideb 2022/23 - Cam 2 - Ymatebion Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Derbyn adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Gam 2 y broses o osod cyllideb ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ystyried canlyniad ymgynghoriad gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gynigion cyllideb 2022/2023, i alluogi’r Pwyllgor i ymateb i’r Cabinet.  Diolchodd i holl Aelodau’r Pwyllgor, Cadeiryddion ac Aelodau Cabinet am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth yn ystod y broses hon.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys adborth o dri o’r Pwyllgorau a rhoddwyd diweddariad ar lafar am y ddau oedd yn weddill a oedd wedi cyfarfod. Roedd pob un wedi cefnogi’r pwysau costau o fewn eu portffolios ac nid oeddynt wedi gallu nodi rhagor o gyfleoedd i arbed arian. Y ddau fater oedd yn codi oedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant oedd yn ceisio rhagor o fanylion am ddyrannu buddsoddiad £1m arfaethedig mewn ysgolion a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd oedd yn gofyn am fonitro risgiau agored yn ofalus.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod yr ymgynghoriad wedi cyflawni gofynion cyfansoddiadol a bod yr adroddiad i’r Cabinet wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu bod y rhan yma o’r gyllideb wedi’i chwblhau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad am bedwar prif newid oedd yn effeithio ar amcangyfrif cyllideb y Cyngor:

 

·         Rhagamcanion o ddyfarniadau cyflog i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol ar drafodaethau cenedlaethol – 1.75% ar gyfer y flwyddyn bresennol ar sail reolaidd ar gyfer y flwyddyn nesaf a 1% o 2022/23

·         Cynnydd Yswiriant Gwladol – ychydig dros £1.4m

·         Cynnydd yn lwfans Aelodau (fel yr argymhellwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) - £0.184m

·         Pwysau amrywiol a ohiriwyd am eu bod yn ddianghenraid neu wedi’u hariannu drwy grantiau eraill – cyfanswm cynnydd i ychydig dros £18m

 

Ar ddatrysiadau cyllideb, roedd y targed arbedion effeithlonrwydd a ragamcanwyd i’w gyrraedd o £2m wedi cael ei ddiwygio i £1.25m. Byddai angen cynnydd o 5.75% mewn Grant Cefnogaeth Refeniw i gefnogi’r holl bwysau cost a nodwyd, a oedd yn unol â’r achos ariannol a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau cenedlaethol presennol am ddyfarniad tâl y rhai nad ydynt yn athrawon yn dynodi bod y rhagamcan yn debygol o fod yn uwch a bod trafodaethau Gweinidogol drwy’r CLlLC yn parhau.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, fe eglurodd y Prif Weithredwr bod rhagamcan yr Yswiriant Gwladol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Aura Cymru, Arlwyo a Glanhau NEWydd a Theatr Clwyd.  Roedd yr achos tystiolaethol cenedlaethol gan CLlLC yn cael ei ystyried yn ragamcan realistig i lywio penderfyniad cenedlaethol. Byddai Setliad annigonol yn golygu bod angen adolygiad o bwysau cost dianghenraid a risgiau cysylltiedig, o ystyried bod rhagamcan y gyllideb wedi cael ei gefnogi heb sgôp ar gyfer arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn cael ei ddylanwadu gan ddatganiad y Canghellor ar y gyllideb. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i holl Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu cyfraniadau a her i’r broses gyllideb.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones deyrnged i waith y Prif Weithredwr yn llunio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a oedd wedi bod yn declyn defnyddiol wrth gynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 44