Mater - cyfarfodydd

Review of Public Convenience Strategy

Cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 30)

30 Adolygiad o’r Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus pdf icon PDF 95 KB

Rhoi diweddariad i’r gwasanaeth Craffu am gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â’r gofynion statudol, a phennu’r dull ar gyfer cynnal adolygiad pellach yn 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â'r gofynion statudol, a nododd yr ymagwedd at adolygiad pellach yn 2022-23.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a chynghorodd fod Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint wedi ei chymeradwyo a’i chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a bod copi wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod canllawiau Cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu'r polisi bob dwy flynedd o'r adeg y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol y Strategaeth ddiwethaf ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol gyffredin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a fyddai toiledau cymunedol sy'n darparu ar gyfer twristiaid yn parhau i gael grant blynyddol gan y Cyngor. Cadarnhaodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai'r grant yn parhau. 

 

Cododd y Cynghorydd Geoff Collett bryderon ynghylch diffyg darpariaeth cyfleustrau cyhoeddus yn yr Wyddgrug, a’r angen i uwchraddio’r ddarpariaeth mewn adeiladau cyhoeddus gan nodi’r llyfrgell gyhoeddus fel enghraifft. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod darpariaeth amgen neu ddatblygiad y cyfleusterau cyhoeddus yng Ngorsaf Fysiau'r Wyddgrug wedi cael eu hystyried ond bod costau'n afresymol a bod y toiledau'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nid oedd trafodaethau â Chyngor Tref yr Wyddgrug wedi symud ymlaen i ddarparu datrysiad. Dywedodd fod toiledau Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug yn rhan o'r Strategaeth Cludiant Integredig a bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug ynghylch parcio coetsys a goleuo. O ran toiledau mewn adeiladau cyhoeddus, dywedodd y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr amgen yn amodol ar ddarparu cyllid i ddatblygu'r cyfleusterau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryder nad oedd unrhyw arwyddion i nodi bod cyfleusterau toiledau cyhoeddus ar gael yn adeilad Llyfrgell Bwcle. Pwysleisiodd fod arwyddion clir yn hanfodol i'r cyhoedd. Cydnabu'r Prif Swyddog fod angen gwaith pellach ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth o doiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Paul Shotton â'r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson bod angen gwell arwyddion i hysbysu preswylwyr o leoliad toiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Chris Bithell sylw at Ran 8, Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017, a chynghorodd nad oedd unrhyw un yn gyfrifol am ddarparu toiledau cyhoeddus ac oherwydd toriadau nid oedd cyllid digonol ar gael i ddarparu'r gwasanaeth. Dywedodd fod yr Wyddgrug nid yn unig yn darparu ar gyfer gofynion ei thrigolion ei hun ond hefyd yn gwasanaethu dalgylch mawr ar gyfer siopa a thwristiaeth a dywedodd nad oedd y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol i ateb y galw yn enwedig yn yr Haf. Mynegodd y Cynghorydd Bithell bryder nad oedd arwyddion i'r ddarpariaeth gyhoeddus bresennol ar gael yn yr Wyddgrug ac y dylent fod wedi'u gosod cyn dymchwel y toiledau cyhoeddus yn New Street a Stryd Wrecsam. Dywedodd nad oedd y trefniadau cyfredol yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn gynaliadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Collet fod angen adolygu cyfleusterau yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn drylwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 30