Mater - cyfarfodydd
Support for Members who are unable to attend meetings due to ill-health
Cyfarfod: 28/09/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 42)
42 Cefnogaeth ar gyfer Aelodau nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfodydd oherwydd salwch PDF 98 KB
Pwrpas: Gofyn i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb barhaus dau aelod.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i'r Cyngor gymeradwyo absenoldeb parhaus dau Aelod etholedig, ar sail dosturiol, fel y darperir ar ei gyfer o dan Adran 85(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Manteisiodd ar y cyfle i dynnu sylw at y gwasanaeth cefnogaeth a chwnsela sydd ar gael i Aelodau a gweithwyr.
Wrth symud yr argymhellion, cadarnhaodd y Cynghorydd Ian Roberts ei fod wedi bod mewn cysylltiad â'r ddau Aelod ac awgrymodd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu i ddymuno gwellhad buan iddynt ar ran y Cyngor.
Wrth eilio'r cynnig, amlygodd y Cynghorydd Mike Peers bwysigrwydd cydnabod y gefnogaeth sydd ar gael mewn sefyllfaoedd o'r fath. Dywedodd efallai y bydd y Cyngor am ystyried yr effaith ar Aelodau sydd â chyfrifoldebau arbennig a allai eu cael eu hunain yn y sefyllfa hon.
Anogwyd aelodau sydd angen cefnogaeth i gysylltu â'r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Llywodraethu) neu'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn dymuno cofnodi ei werthfawrogiad am y gefnogaeth a roddwyd i'r ddau Aelod.
Cafodd yr argymhellion eu rhoi i'r bleidlais a'u cynnal.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn cymeradwyo, ar sail dosturiol, absenoldeb parhaus dau Aelod o gyfarfodydd oherwydd eu salwch; a
(b) Bod y Cyngor yn nodi y bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ail-gylchredeg manylion y gwasanaeth Gwybodaeth a Chwnsela Gweithwyr Carefirst i'r holl Aelodau.