Mater - cyfarfodydd
Allocation of Risks to Committees
Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 37)
37 Dyrannu Risgiau i Bwyllgorau PDF 87 KB
Pwrpas: Adolygu’r dyraniad risgiau i Bwyllgorau, yn dilyn cyfarfod o’r Gr?p Cyswllt a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf 2021.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Council Plan & Governance Risk Mapping – Reporting to Committees, eitem 37 PDF 101 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Dyrannu Risgiau i Bwyllgorau
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Gr?p Cyswllt y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cwrdd ar 27 Gorffennaf i drafod dyrannu risgiau i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.
Cymeradwywyd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan y Cyngor Sir ym mis Mai 2021, ac mae Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios wedi’u datblygu ar gyfer dod allan o’r pandemig.Mae’r risgiau a nodir yn y dogfennau hynny wedi’u hystyried yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor hwn.Wrth adolygu’r dogfennau uchod mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y risgiau ‘coch’, gyda dogfen yn amlinellu dyraniad y risgiau i’r pwyllgorau perthnasol wedi’i hatodi.
Cynigiodd y Cynghorydd Johnson y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dunbar.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno i ddyrannu’r risgiau i’r Pwyllgorau perthnasol fel yr awgrymir;
(b) Bod y Pwyllgor Adfer yn derbyn adroddiad diweddaru.