Mater - cyfarfodydd

Risks and Issues within Portfolios

Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 36)

36 Risgiau a Materion o fewn Portffolios pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Adolygu’r risgiau mwyaf/presennol o fewn y pum portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios wedi’u datblygu ar gyfer dod allan o’r cam ymateb cyntaf i’r pandemig yn 2020.

 

Mae’r Pwyllgor Adfer, yn ystod cyfarfodydd diweddar, wedi arolygu Cynlluniau Busnes Adfer y pum portffolio.Yn ystod y cyfarfodydd hynny mae’r Prif Swyddogion wedi amlygu’r risgiau arwyddocaol.Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y risgiau ymhob portffolio.

 

Addysg ac Ieuenctid

Dywedodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod wedi cael dechrau da i’r flwyddyn academaidd newydd gyda phob ysgol yn agor yn ôl y disgwyl.Mae’r ansicrwydd ynghylch newidiadau gweithredol a ellir fod angen eu gwneud yn cael ei reoli.Cafwyd cyfarfod adeiladol gyda phenaethiaid ar ddiwrnod cyntaf y tymor er mwyn i'r awdurdod lleol ymateb i unrhyw ymholiad a phryder.

 

Bydd ysgolion yn monitro iechyd a lles eu disgyblion, yn ogystal â’u cynnydd academaidd, yn ofalus wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, a bydd cymorth i unigolion yn cael ei addasu yn ôl yr angen. Eglurodd fanylion y canllawiau newydd ar gyfer hunan-ynysu pe bai plentyn mewn ysgol yn derbyn prawf Covid positif – gan fod y wlad ar lefel rhybudd sero nid oes yn rhaid i blant sydd wedi bod mewn cyswllt â phlentyn sydd wedi cael prawf positif hunan-ynysu a chael prawf (oni bai bod ganddynt symptomau Covid) ac felly mae modd iddynt fynd i’r ysgol yn ôl yr arfer.

 

Tai ac Asedau

Eglurodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y pandemig yn parhau i effeithio ar incwm rhenti ac y byddai’r sefyllfa yn gwaethygu wrth i’r cynllun ffyrlo a rhagofalon eraill ddod i ben. Bydd y sefyllfa dan fygythiad pellach pan fydd taliadau ychwanegol Credyd Cynhwysol yn dod i ben a goblygiadau’r mesur ‘Lle i Anadlu’ yn dod i rym (oedi o 60 diwrnod ar holl weithgareddau credydwyr).

 

Mae nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn ddigartref wedi cynyddu wrth i’r rhagofalon presennol o ran troi pobl allan a’r cynllun ffyrlo ddiweddu, ac mae landlordiaid yn cymryd camau i ddechrau a bwrw ymlaen ag achosion o droi allan a oedwyd.

 

Mae prinder o ddeunyddiau crai wedi arwain at gynnydd mewn costau, oedi i raglenni a mwy o anghydfodau gyda chontractwyr.Mae’r Cyngor yn parhau i chwilio am gyflenwyr eraill neu ganfod stoc a’i chadw at y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut mae’r Grant Caledi ar gyfer Tenantiaid yn cael ei hyrwyddo ymhlith landlordiaid preifat.Eglurodd y Prif Swyddog fod y grant yn cael ei hyrwyddo gan y Tîm Dewisiadau Tai a Fforwm Landlordiaid y Sector Rhentu Preifat.Bydd yn edrych i mewn i ddulliau eraill o’i hyrwyddo.Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Dunbar ar Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ymwybodol o’r goblygiadau ac y bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gadernid timau amrywiol yn sgil y galw digynsail ar wasanaethau yn ystod y pandemig.Mae achosion busnes  ...  view the full Cofnodion text for item 36