Mater - cyfarfodydd
Corporate Recovery Objectives
Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 33)
33 Amcanion Adferiad Corfforaethol PDF 123 KB
Pwrpas: Nodi cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn yr Amcanion Adferiad Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Cymru, a rhanbarth y gogledd, yn parhau i fod yn ail gam y cyfnod adfer yn dilyn pandemig Covid-19.Mae’r endemig cyfredol yn cael ei reoli.
Mae’r adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr amcanion corfforaethol a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Cyllid
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai ychydig iawn o newid sydd wedi bod ers y cyfarfod diwethaf.Mae’r Cyngor yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar gymorth cenedlaethol drwy’r Gronfa Galedi a ffynonellau cyllid eraill y llywodraeth.Roedd yn falch o adrodd bod cadarnhad wedi’i dderbyn yn ddiweddar y bydd y cyllid yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.
Gweithlu
Eglurodd Uwch-Reolwr (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) fod y Cyngor, drwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi darparu cyfle i rywfaint o’r gweithlu wneud prawf llif unffordd dan oruchwyliaeth.Roedd y rheiny a gymerodd brawf wedi derbyn canlyniadau negyddol, a oedd yn darparu sicrwydd o ran mesurau diogelwch y gweithle.
Roedd angen wedi’i nodi ar gyfer darpariaeth ffisiotherapi fewnol, gan y byddai hynny’n fwy cost effeithiol na’r trefniadau presennol ac yn rhoi mwy o reolaeth i'r sefydliad gefnogi gweithwyr yn seiliedig ar anghenion clinigol.
Mae asesiadau risg yn cael eu hadolygu i benderfynu ar y model gweithredu gorau posibl ar gyfer y gweithlu, sy’n cyflawni amcanion strategol y Strategaeth Ddigidol ac yn darparu gweithlu hybrid bodlon, cynhyrchiol, diogel ac effeithiol.
Llywodraethu
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor wedi lansio canolbwynt digidol i sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio oherwydd diffyg mynediad i sgiliau.Mae'n wefan sy’n galluogi pobl i helpu eraill fynd ar-lein neu i feithrin sgiliau a magu hyder ar-lein.Yn bwysicach fyth, caiff ei gefnogi gan weithwyr Sir y Fflint yn Cysylltu a phartneriaid fel Aura sydd hefyd yn darparu mynediad i ddyfeisiau a chysylltedd.Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, dywedodd y Prif Swyddog fod y canolbwynt yn cael ei hysbysebu gan nifer o bartneriaid fel Age Concern a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
O ran cyfraddau casglu treth y cyngor, trethi annomestig cenedlaethol, mân ddyledion a rhenti tai a chyrraedd y targedau, mae’r cyfraddau casglu yn dal yn is na’r targed ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i gynyddu’r cyfraddau casglu ac ad-ennill.Fodd bynnag, llynedd fe ganolbwyntiodd y Gwasanaeth Refeniw ar ddarparu grantiau a helpu trigolion i dderbyn cymorth yn hytrach na chasglu symiau sy’n ddyledus.Mae llawer o ansicrwydd ynghylch effaith bosibl diwedd y cynllun ffyrlo.
Dywedodd y Cynghorydd Jones y dylid cydnabod y cymorth y llywodraethau.Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd codi’r awgrym yngl?n ag un dystysgrif brechu a fyddai’n cael ei chydnabod ar draws y DU.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n gwneud hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Johnson y dylid cymeradwyo’r adroddiad ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor wedi derbyn sicrwydd o’r cynnydd wrth gyflawni’r amcanion adfer.