Mater - cyfarfodydd

Organisational Capacity

Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (eitem 33)

33 Capasiti Sefydliadol pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo achosion brys ar gyfer ymestyn capasiti mewn meysydd allweddol o ran y gweithlu o ganlyniad i gyfuniad o (a) alw o ran y gwasanaeth (b) gofynion parhaus rheoli'r pandemig/endemig a’r (c) disgwyliadau o fodloni amcanion Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn cyflwyno cynigion brys i wella capasiti sefydliadol mewn chwe maes o’r gweithlu, a chydgrynhoi capasiti mewn un maes pellach oherwydd cyfuniad o (1) galw mawr ar y gwasanaeth (2) y galw parhaus ar reoli sefyllfa’r pandemig/endemig a (3) disgwyliadau i gwrdd â nodau ac amcanion y Cynllun newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Nid oedd y cynigion angen unrhyw newidiadau strwythurol ac nid oeddent yn rhoi unrhyw weithwyr presennol mewn perygl.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod pob cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’i gefnogi gan achos busnes a grynhowyd yn yr adroddiad ac roeddent ar gyfer meysydd canlynol y gweithlu/swyddogaethau:

 

1.    Iechyd yr Amgylchedd

2.    Gorfodaeth

3.    Adfywio Canol Trefi

4.    Atal Llifogydd ac Ymateb

5.    Iechyd Galwedigaethol

6.    Cyfreithiol

7.    Gwerth Cymdeithasol (roedd hon yn swydd bresennol gyda chyllid am amser cyfyngedig am dair blynedd a argymhellwyd i’w gwneud yn barhaol).

 

  Byddai cynigion eraill ar gyfer capasiti sefydliadol gyda llai o frys yn cael eu hystyried fel rhan o’r gyllideb flynyddol ddrafft ar gyfer 2022/23. 

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn ystyried ymestyn y nifer o brentisiaethau a byddai’n edrych ar ffyrdd creadigol i recriwtio.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y cynigion ar gyfer capasiti sefydliadol fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo; a

 

 (b)      Bod y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn derbyn awdurdod dirprwyedig i fwrw ymlaen i ddylunio swydd a recriwtio/cynnal yn y meysydd capasiti a nodwyd.