Mater - cyfarfodydd
Comments, Compliments and Complaints
Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 31)
Pwrpas: Darparu adroddiad blynyddol ar Ganmoliaeth, Sylwadau a Chwynion a dderbyniwyd gan y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Comments, Compliments and Complaints, eitem 31 PDF 59 KB
- Enc. 2 for Comments, Compliments and Complaints, eitem 31 PDF 54 KB
- Enc. 3 for Comments, Compliments and Complaints, eitem 31 PDF 48 KB
- Enc. 4 for Comments, Compliments and Complaints, eitem 31 PDF 73 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020-21
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad yr Adroddiad Blynyddol Statudol ar Gwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cynnwys cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Dywedodd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, roedd 93 o gwynion a 721 canmoliaeth wedi eu derbyn, oedd bron yn ddwbl y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd wedi bod yn eithriadol a bod yr adroddiad yn un o’r gorau yr oedd wedi’i ddarllen, a chytunodd y Pwyllgor.
Yna gofynnodd y Cadeirydd pam bod y canmoliaethau bron wedi dyblu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol o fewn y Tîm Plant i Oedolion Gwasanaethau Plant. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl nad oedd y cwynion wedi eu cyfeirio at y Gwasanaeth ond sut oedd y rhieni yn teimlo adeg y sefyllfa. Roedd rhieni wedi ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod clo oherwydd llai o gapasiti ac mewn rhai achosion cau cyfleusterau ac yn ei chael hi’n anodd bod gartref gyda phlant gydag ymddygiad heriol.
Roedd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad wedi cytuno i anfon crynodeb o’r canmoliaethau i’r Pwyllgor.
Roedd y Cynghorydd Gladys Healey yn canmol staff am y ffordd yr oeddent yn cynnal eu hunain gyda’u cleientiaid gan nad oedd unrhyw gwynion am barch o fewn gofal cymdeithasol oedolion. Ychwanegodd y dylai tâl ac amodau i Weithwyr Gofal wella i leddfu’r broblem gyda phrinder staff.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu nad oedd unrhyw dystiolaeth o amgylch y gwyn am gyfathrebu gwael o fewn Gwasanaethau Plant ac yn dilyn ymchwiliad canfuwyd ei fod oherwydd y ffaith fod plentyn wedi gorglywed sgwrs oedolyn yn y cartref.
Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eisiau diolch i’r tîm am ymateb o fewn amserlen Gwasanaethau Oedolion a Phlant o ystyried yr amgylchiadau yn ystod y flwyddyn.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Bod effeithiolrwydd gweithdrefn gwynion a’r gwersi a ddysgwyd i wella darpariaeth gwasanaeth yn cael ei nodi.