Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 01/09/2021 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 5)

Ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig

Pwrpas:        I aelodau ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig o ran gwybodaeth ychwanegol a ddatgelwyd ar ei Uwch Dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ddisgresiwn Prif Swyddog yr Heddlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad er mwyn ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â gwybodaeth ychwanegol sydd wedi’i datgelu ar ei Dystysgrif Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ôl disgresiwn Prif Swyddog yr Heddlu. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y prif ystyriaethau yn cynnwys y rhesymau dros gynnal y gwrandawiad, y sylwadau ysgrifenedig a ddarparwyd gan ddeilydd y drwydded, a’r adrannau perthnasol o ganllawiau’r Cyngor am drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill a gofnodir. Cyn y cyfarfod, roedd y Swyddog Trwyddedu hefyd wedi rhannu erthygl yn y wasg gyda’r panel, oedd yn ymwneud ag ymddygiad deilydd y drwydded ar achlysur blaenorol.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y panel a’r Cyfreithiwr, darparodd ddeilydd y drwydded eglurder am y digwyddiadau oedd yn arwain at ei benderfyniad i gysylltu gyda’r Heddlu.  Roedd deilydd y drwydded yn derbyn ei fod wedi bod yn cyfathrebu mewn ystafell sgwrsio i oedolion, ond roedd yn gwadu anfon unrhyw fideos neu luniau ac hefyd nad oedd y cyfathrebu’n ymddygiad troseddol.  Nid oedd deilydd y drwydded yn gwybod pwy oedd wedi cwyno wrth yr Heddlu na pham y byddent yn gwneud hynny. Nid oedd yn gallu egluro pam yr honnwyd fod y negeseuon yn cynnwys ei rif ffôn, er fe soniodd y gallai gwybodaeth o’r fath fod ar gael yn gyhoeddus. Dywedodd er ei fod wedi cydweithredu gyda’r Heddlu, ei fod wedi dewis rhoi atebion “Dim sylwadau” yn ei gyfweliad yn unol â chyngor gan ei Gyfreithiwr.Penderfynodd yr Heddlu, ar ôl cynnal ymchwiliad am yr honiadau a wnaed yn erbyn deilydd y drwydded, na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn.

 

Yn dilyn y canlyniad hwnnw, dywedodd ddeilydd y drwydded bod cadw’r datgeliad ar ei Ffurflen Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi creu cryn dipyn o ofid meddwl iddo.  Er ei fod yn derbyn y gallai’r Awdurdod Drwyddedu ystyried gwybodaeth a ddatgelwyd yn ôl disgresiwn y Prif Gwnstabl, dywedodd eto nad oedd unrhyw gyhuddiadau, euogfarnau na rhybuddion yn codi o ymchwiliad yr Heddlu, ac roedd hynny’n destun her gyfreithiol barhaus drwy ei Gyfreithiwr. Eglurodd ddeilydd y drwydded yr amgylchiadau yn ymwneud â’r adroddiad papur newydd a dywedodd nad oedd yn berthnasol i’r wybodaeth a ddatgelwyd yn y DBS.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd wrtho a oedd yn dymuno rhoi sylwadau pellach, diolchodd ddeilydd y drwydded i’r panel am ystyried y mater ac erfyn arnyn nhw i ystyried y ffeiliau, bod y wybodaeth wedi parhau i gael ei chynnwys ar ei ffurflen DBS er gwaethaf canlyniad ymchwiliad yr Heddlu. Siaradodd am ei barodrwydd i ddarparu sicrwydd i’r panel er mwyn gallu symud ymlaen o’r cyfnod anodd hwn yn ei fywyd.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod pob cwestiwn perthnasol wedi ei godi, gofynnodd i ddeiliad y drwydded a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd  ...  view the full Cofnodion text for item 5