Mater - cyfarfodydd

Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary

Cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 20)

20 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 107 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Dickson ei hun a nododd fod ecwiti byd-eang wedi cynyddu tua 5% o 30 Mehefin i 31 Awst 2021, roedd asedau amddiffynnol wedi cynyddu tua 2% ac roedd giltiau wedi’u cysylltu â mynegai wedi cynyddu tua 7 i 8% hefyd.Wrth i’r economi agor, dywedodd Mr Dickson ei fod yn ofalus ond gobeithiol o ran sut roedd marchnadoedd yn symud wrth symud ymlaen.

 

            Ychwanegodd Mr Buckland fod y Gronfa wedi perfformio’n gryf dros y chwarter at 30 Mehefin 2021, gyda cyfanswm gwerth ar y farchnad o £2,326.4 miliwn.Fel a amlinellir ar dudalen 363, roedd y Gronfa ychydig y tu ôl i’r meincnod 3 blynedd cyfan.Fodd bynnag, roedd y Gronfa eisoes yn cyflawni’r lefelau hynny o ran enillion.

 

Ar dudalen 369, gofynnodd y Cyng Bateman a oedd ffactorau chwyddiant ar gyfer bwyd oddi cartref yn ymwneud â phrydau bwyd i fynd.Cadarnhaodd Mr Dickson hyn, oherwydd bod nifer y prydau bwyd i fynd wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac roedd hefyd yn ymestyn i gyflenwadau adeiladu a chyflenwadau bwytai.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r diweddariad Economaidd a Marchnad.