Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communication Update

Cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 17)

17 Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu pdf icon PDF 152 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Williams sylw am y pwyntiau allweddol canlynol am y diweddariad gweinyddu pensiynau a chyfathrebu:

-       Roedd dau aelod o staff wedi pasio eu cymwysterau proffesiynol pensiynau ym mis Awst, sy’n ofyniad ar gyfer lefel arweinydd tîm ac uwch.Felly, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i staff ddatblygu yn eu gyrfa.

-       Roedd Prudential wedi gosod system ariannol newydd fis Mawrth llynedd, a oedd wedi arwain at oedi ers hynny wrth i aelodau gael eu buddion.Roedd y Gronfa yn cynnig datrysiadau i aelodau wrth iddynt aros am eu harian gan Prudential.Roedd y Gronfa wedi rhoi gwybod i TPR am y broblem hon ac roeddent am gwrdd ag uwch reolwyr yn Prudential i drafod y materion.

-       Roedd y Gronfa wedi hysbysebu swyddi gwag o fewn tîm cymorth McCloud, ond roeddent wedi cael anawsterau wrth recriwtio.Roedd dau aelod o staff ar gytundebau dros dro wedi symud at gyfleoedd eraill y tu allan i’r Gronfa.Fodd bynnag, bydd dau brentis modern yn dechrau gyda’r Gronfa maes o law.

-       Roedd fformat newydd o ran mesurau DPA wedi’i gynnwys ar dudalen 284, a oedd yn grynodeb lefel uwch.Gall Aelodau barhau i gael y graffiau mwy manwl ar gais. Roedd hyn yn cynnwys DPA newydd, er enghraifft o ran CETV at ddibenion ysgariad.

-       Roedd gwelliannau wedi’u gwneud yn y rhan fwyaf o feysydd DPA yn y diweddariad hwn, ond roedd effaith oedi o ran trosglwyddiadau i mewn gan y cynlluniau eraill, fel a ganiateir gan TPR, wedi’i hadlewyrchu yn ffigurau perfformiad y Gronfa, lle roedd dirywiad bach.

 

Gofynnodd y Cyng Bateman am aelodau’r tîm a oedd wedi gadael y Gronfa.Cadarnhaodd Mrs Williams eu bod ar gontractau dros dro.Roedd un aelod o staff wedi symud i’r cynllun graddedigion yn y Cyngor ac roedd yr aelod arall o staff wedi cael swydd barhaol yn rhywle arall.

Gofynnodd y Cyng Williams am ddiweddariad am iConnect ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.Dywedodd Mrs Williams fod Wrecsam yn defnyddio iConnect yn llawn, fodd bynnag mae rhai problemau o hyd wrth lwytho cofnodion aelodau ar iConnect oherwydd y fformat a bod gwybodaeth anghywir mewn meysydd dynodedig.Er hyn, eglurodd Mrs Williams ei bod hi’n obeithiol y byddai hyn yn cael ei ddatrys oherwydd bod tîm Cronfa Bensiynau Clwyd a Wrecsam yn cydweithio’n agos i ddatrys y problemau sy’n weddill.

Diolchodd Mr Everett i Mrs Williams a’r tîm am y cynnydd gwych parhaus.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.