Mater - cyfarfodydd

Governance Update and Consultations

Cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 16)

16 Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 151 KB

Rhoidiweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Llywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs McWilliam y diweddariad ac fe ychwanegodd:

-       Fel a amlinellir ar dudalen 261, gan ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer y system rheoli costau, cymeradwyodd y Cadeirydd ac uwch swyddogion ymateb gan y Gronfa i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio dirprwyaethau brys.

-       Roedd tudalen 248 yn dangos cyfran presenoldeb aelodau’r Pwyllgor mewn sesiynau pynciau llosg.Roedd cyfleoedd hyfforddiant pellach i’w gweld ar dudalen 265.

-       Roedd Aelodau wedi cael e-bost gan Mrs Fielder am ddigwyddiad CIPFA, a agorwyd i aelodau’r Pwyllgor eleni.Anogwyd yr Aelodau i fynychu’r sesiwn dros y we ar 8 Hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.