Mater - cyfarfodydd

Supporting Service Children in Education Update

Cyfarfod: 02/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 33)

33 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg pdf icon PDF 124 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sut mae ysgolion Sir y Fflint yn cefnogi plant y lluoedd arfog.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r Adroddiad, croesawodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr Peter Hawley o Ysgol Uwchradd Cei Connah i’r cyfarfod a oedd wedi’i wahodd i ddarparu gwybodaeth am ei rôl yn cefnogi Plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol.           

 

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr Gwelliant Ysgolion adroddiad i ddarparu trosolwg i’r Pwyllgor ar sut mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cefnogi ysgolion sydd gan ddisgyblion gyda phlant y lluoedd arfog. Yn ogystal, amlinellodd yr adroddiad sut mae’r cyllid i’r Cyngor wedi’i ddyrannu ar draws ysgolion Sir y Fflint a roedd gwaith yn cael ei gyflawni ochr yn ochr Cefnogi Plant Y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru (SSCE) i gasglu data ar y nifer a lleoliad Plant Y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

Eglurodd yr uwch-reolwr ers dechrau’r rhaglen yn 2014, roedd SCCE Cymru wedi gweithio fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi a darparu sail adnodd ar gyfer holl Awdurdodau Lleol ac ysgolion annibynnol yng Nghymru. Siarad gyda Plant y Lluoedd Arfog i gael dealltwriaeth o’u profiadau wedi galluogi darparu gwell gefnogaeth i’w helpu, a chadarnhaodd yr Uwch-Reolwr ei bod wedi eistedd ar Fforwm y Lluoedd Arfog Sir y Fflint ac wedi amlinellu meysydd lle roedd Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli a oedd yn galluogi darparu’r gefnogaeth ac arweiniad orau i ysgolion gael symud ymlaen.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. Cyfeiriodd at wefan SSCE Cymru a gofynnodd a oedd Sir y Fflint yn rhan o’r rhaglen Ysgolion Sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ymrwymedig yn ceisio symud hyn ymlaen, a bod Ysgolion yn anelu i gael eu hadnabod am eu harferion da. Awgrymodd y bydd adroddiad arall i amlinellu’r camau blaenoriaeth i’r Ysgolion yn dilyn yr archwiliad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng ngwanwyn 2022.  

 

            Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y ffordd yr oedd cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ddyrannu a’i ddosbarthu i ysgolion unigol, ac awgrymodd y bydd angen cyllid os bydd cynnydd yn y nifer o ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu unigolyn sydd â mwy o anghenion mewn un ysgol, lle’r oedd gofynion mewn ysgol arall wedi’i wrthod.Cytunodd yr Uwch-Reolwr i roi adborth ar yr awgrym hwn i SSCE Cymru yn dilyn y cyfarfod.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Hawley i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor. Rhoddodd Mr Hawley drosolwg o’i wasanaeth milwrol fel Uwch-ringyll gyda Chatrawd Swydd Efrog, ac ymddeolodd yn 2012 ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth. Roedd wedi bod ar daith o amgylch y byd a roedd ei deithiau mwyaf diweddar yn Irac ac Affganistan.  Eglurodd yn ystod ei amser yn y fyddin, bod ganddo 60 o ddynion dan ei orchymyn a roedd wedi gweithio i sicrhau bod eu bywyd yn mynd rhagddynt mor esmwyth â phosib gan bod gan nifer ohonynt deuluoedd ifanc gartref tra roeddynt i ffwrdd yn brwydro.  Siaradodd am effaith ar ei deulu ei hun tra’r oedd yn y fyddin, a’r effaith ar ei blant pan roeddynt  ...  view the full Cofnodion text for item 33