Mater - cyfarfodydd

Elective Home Education

Cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 28)

28 Addysg Ddewisol yn y Cartref pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a goruchwyliaeth y Cyngor o’r dysgwyr hyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Sir y Fflint a rôl y Cyngor o ran monitro a chefnogi.

 

            Eglurodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod addysg yn orfodol ond bod modd i rieni ddewis sut y caiff ei darparu, gyda rhai yn dewis anfon eu plant i ysgol ac eraill yn dewis addysgu eu plant gartref.Does dim cyfrifoldeb ar rieni i roi gwybod i’r awdurdod lleol eu bod yn dewis addysgu eu plant gartref. Os nad yw plentyn yn rhan o’r system addysg yna nid yw’r awdurdod yn ymwybodol ohono.Mae prosesau yn eu lle pan fo plentyn yn cael ei dynnu o ysgol; byddai’r awdurdod lleol yn cael gwybod ac yn anfon ffurflenni i’r rhieni eu llenwi.

 

Eglurodd yr Uwch-Reolwr fod plant gydag anghenion addysgol arbennig yn faes pryder posibl a bod gan yr awdurdod rhywfaint o bwerau yn hyn o beth i wneud yn si?r bod yr addysg yn bodloni gofynion unrhyw ddatganiad AAA.Cadarnhaodd nad oes yn rhaid i rieni gadw at y cwricwlwm cenedlaethol ac nad oes gan yr awdurdod unrhyw b?er i weld y plant na gweld pa addysg sy’n cael ei ddarparu.Y Gwasanaeth Lles Addysg sy’n gyfrifol am fonitro hyn, yn rhannol oherwydd eu harbenigedd mewn perthynas â diogelu.Mae’r swyddogion yn chwarae rôl allweddol gan ymweld â chartrefi’n flynyddol fel rhan o’r broses fonitro a mynegi unrhyw bryder yngl?n â diogelu fel y bo’n briodol.Ers 2020 mae cyllid wedi’i dderbyn ar gyfer hyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ystyried cyllid parhaus ar sail tair blynedd.Mae’r cyllid, na chafodd ei ddarparu yn y gorffennol, yn caniatáu rhywfaint o gymorth swyddog i alluogi’r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’n darparu £14,000 i rieni brynu eitemau penodol fel gliniaduron a desgiau ac i ariannu ymweliadau addysgol. Eleni prynwyd aelodaeth iau Aura i gefnogi’r plant hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwrdd â phlant eraill.Dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar ei pholisi ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ers sawl blwyddyn, ond nid yw hyd yma wedi darparu pwerau statudol i awdurdodau fonitro’r maes hwn yn llawn.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylwadau ar y rhesymau dros dderbyn addysg yn y cartref, fel y dangosir yn nata Llywodraeth Cymru yn Atodiad 1, a dywedodd fod dau o’r prif resymau yn cynnwys y gair ‘gorbryder’.Gofynnodd a fyddai’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol, a drafodwyd yn gynharach, yn gallu helpu i leihau gorbryder plant sy’n symud o’r ysgol ganradd i’r ysgol uwchradd.Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr fod y Rhaglen TRAC wedi’i ehangu i gynnwys disgyblion blwyddyn 6 ac yn nodi plant sy’n orbryderus ynghylch mynd i flwyddyn 7.Mae ysgolion cynradd yn nodi disgyblion sydd â lefelau uchel o orbryder ac mae rhaglenni unigol yn cael eu rhoi ar waith ar eu cyfer.Soniodd y Cadeirydd pa mor bwysig yw hi i rieni gael gwybod am  ...  view the full Cofnodion text for item 28