Mater - cyfarfodydd

School Reserve Balances Year Ending 31st March 2021

Cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 19)

19 Balansau Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion y Flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 pdf icon PDF 104 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar lefel gyffredinol o arian wrth gefn a gynhelir gan ysgolion Sir y Fflint.  Roedd lefel arian wrth gefn i ysgolion wedi cynyddu ar draws pob sector ac roedd yn rhannol o ganlyniad i’r nifer o grantiau ychwanegol a ddyfarnwyd i ysgolion i gydnabod y materion a achoswyd gan y pandemig.  Roedd y grantiau hyn wedi eu dyfarnu’n hwyr yn ystod y flwyddyn ariannol ac wedi chwyddo cronfeydd wrth gefn ysgolion. 

 

            Roedd y Cynghorydd Dave Mackie wedi gwneud sylw ar drafodaethau blaenorol o amgylch y fformiwla cyllid ysgol diwygiedig ac y dylai gael ei newid i’w gwneud yn haws i’w ddiweddaru. Roedd yn teimlo bod yr anghysonderau yn y cronfeydd wrth gefn ysgol uwchradd hyn nawr yn nodi bod angen adolygiad.  Roedd yn mynegi pryderon o amgylch y gwahaniaeth mewn cyllid i ysgolion oedd â niferoedd tebyg o ddisgyblion ac awgrymodd oherwydd hyn, y dylai’r cyllid a ddyrannwyd a’r cyfanswm cyllid oedd yna gael ei adolygu i sicrhau nad oedd yna gymaint o wahaniaeth mewn cyllid mewn gwahanol siroedd ar draws Cymru.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd yn bosibl cymharu cyllid ar gyfer ysgolion o’r maint tebyg ar draws gwahanol siroedd yng Nghymru gan y gallai fod yna nifer o resymau am y gwahaniaeth.  Yn Sir y Fflint, roedd pob disgybl ysgol uwchradd yn cael eu trin yr un fath heblaw am y sawl ag anghenion ychwanegol.  Ychwanegodd bod cymhariaeth data amrwd yn seiliedig ar niferoedd disgyblion yn dibynnu ar y math o sir, gydag ysgolion mwy mewn ardaloedd trefol.  Roedd ysgolion gwledig llai yn hanfodol i ddarparu addysg i ddisgyblion yn yr ardaloedd ble roeddent yn byw.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno gyda sylwadau’r Arweinydd ac yn dweud bod gwariant mwyaf y Cyngor ar addysg.  Roedd Sir y Fflint yn parhau’n Gyngor oedd yn cael llai o arian ac os bydd hyn yn cynyddu yna byddai’n bosibl cynyddu gwariant fesul disgybl.    Er gwaethaf hyn, roedd gan y Cyngor fwy o arian ble bo’n bosibl gydag adnoddau cyfyngedig.          

 

Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Ian Smith.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi lefel arian wrth gefn ysgolion hyd at 31 Mawrth 2021, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.