Mater - cyfarfodydd

Pan Wales Standards Conference

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 16)

16 Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan pdf icon PDF 79 KB

Cynhelir Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan bob dwy flynedd.Gohiriwyd cynhadledd y llynedd tan eleni ac mae Swyddogion Monitro yng ngogledd Cymru wrthi’n gwneud y trefniadau.Nod yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau o raglen a fformat arfaethedig y Gynhadledd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar y paratoadau ar gyfer y Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan fyddai’n cael ei chynnal dros y we ddiwedd Hydref/Tachwedd 2021. Pan fyddai’r dyddiad wedi’i gadarnhau, byddai cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Jonathan Duggan-Keen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r paratoadau ar gyfer y gynhadledd.