Mater - cyfarfodydd
Mutual Investment Model (MIM) 21st Century Schools Welsh Education Partnership – Deed of Adherence
Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (eitem 40)
Pwrpas: Esbonio’r cefndir a’r broses ar gyfer ‘Gweithred Ymlyniad’ arfaethedig ynghlwm wrth y Cytundeb Partneriaeth Strategol sydd eisoes wedi’i gytuno a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu’r Weithred Ymlyniad ar gyfer y Cytundeb, sy’n hwyluso darpariaeth cyfleusterau addysgol a chymunedol drwy’r Dull Buddsoddi Cydfuddiannol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Deed of Adherence, eitem 40 PDF 212 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Dull Buddsoddi Cydfuddiannol – Partneriaeth Addysg Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif – Gweithred Ymlyniad
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn rhoi manylion ar y cefndir a phroses newid arfaethedig, “Gweithred Ymlyniad” i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol presennol y cytunwyd arno. Roedd y Cytundeb Partneriaeth Strategol yn hwyluso darparu cyfleusterau addysg a chymuned drwy Ddull Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru a cheisio cymeradwyaeth i ymuno â’r Weithred Ymlyniad.
Yn ddarostyngedig i gytundeb priodol gan Gyfranogwyr Parhaus (Cynghorau Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach) byddai’r Weithred Ymlyniad yn cael ei chwblhau gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2021.
PENDERFYNWYD:
Wrth nodi’r argymhellion isod mae’n cael ei eirio yn eithaf penodol gan Bevan Brittain, yr ymgynghorwyr cyfreithiol i Lywodraeth Cymru a WEPCo i sicrhau bod gan holl bartneriaid i’r cytundeb hwnnw set o eiriau a reoleiddir ac y cytunwyd arnynt yn ffurfiol. Mae hyn er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y bartneriaeth, a fydd yn cyflwyno adroddiadau cymharol debyg i’w sefydliadau priodol ar neu o gwmpas yr un amser:
Bod gweithredu, darparu a pherfformio cytundeb atodol i Gytundeb Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru dyddiedig 30 Medi 2020 (y “Weithred Ymlyniad”) yn cael ei gymeradwyo, fel bod y Cydbartneriaethau o ddyddiad gweithredu’r Weithred Ymlyniad i’r Cydbartneriaethau yn gallu bod ynghlwm i delerau Cytundeb Partneriaeth Strategol Partneriaeth Addysg Cymru dyddiedig 30 Medi 2020 fel parti iddo, i hwyluso darparu ystod o wasanaethau isadeiledd a darparu cyfleusterau addysg a chymuned.