Mater - cyfarfodydd

Budget 2022/23 - Stage 2

Cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 15)

15 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Cymuned, Tai ac Asedau a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr (Tai ac Asedau) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl. Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Roedd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

           

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau
  • Pwysau Costau’r Portffolio Tai ac Asedau 2022/23

ØPwysau Tai ac Asedau

  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau am Ostyngiadau Treth y Cyngor a dywedodd eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol o ran gwariant. Ychwanegodd fod llawer iawn o gefnogaeth sylweddol ar fin dod i ben (cynllun ffyrlo a chredydau treth) a fyddai’n cael effaith. Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau drosolwg i’r Pwyllgor am lefel y risg a amlygwyd a dywedodd y byddai effaith sylweddol o ran Credyd Cynhwysol a bod y gwasanaeth ar gyfer y cynllun wedi’i gynyddu i ddarparu mesurau cynhwysfawr i helpu gyda chyngor a chymorth i’r cyhoedd ac incwm aelwydydd.

 

Soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau hefyd am y cynllun ‘Help You’ ar gyfer tenantiaid y Cyngor a chymorth â thanwydd oherwydd y cynnydd o ran prisiau tanwydd a’r grant ar gyfer caledi tenantiaeth.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau costau’r Portffolio Tai ac Asedau; a

 

(b)       Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw feysydd arbed costau pellach i’w harchwilio ymhellach.