Mater - cyfarfodydd
Budget 2022/23 - Stage 2 (EY&C OSC)
Cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 18)
18 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 PDF 144 KB
Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.
Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl. Roedd manylion y pwysau costau i Addysg ac Ieuenctid yn gynwysedig yn yr adroddiad.
Roedd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi darparu cyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
· Pwrpas a chefndir
· Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau
ØPwysau Addysg ac Ieuenctid
ØPwysau Cyllideb Ysgolion
· Crynodeb holl Bwysau Costau
· Pwysau Cyllideb y Tu Allan i’r Sir
· Datrysiadau Strategol
· Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
· Amserlenni Cyllideb
Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau am gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod yr heriau i brynu prydau ysgol a byrbrydau wedi’i amlygu gan fyfyrwyr a gobeithio os byddai yna hyblygrwydd o fewn y gyllideb i godi hyn, byddai’n cael ei groesawu’n fawr. Y sefyllfa mewn ysgolion cynradd oedd bod prydau yn brydau wedi eu paratoi o nifer o ddewisiadau. Ar y lefel uwchradd roedd yn fwy o arddull caffeteria gyda mwy o ddewisiadau ar gael ar gyfer pobl ifanc. Roedd y lwfans prydau ysgol am ddim presennol i bob sector yn £2.35 y dydd. Roedd hyn yn ddigon mewn ysgol uwchradd i brynu brechdan, darn o ffrwyth a photel o dd?r neu gynnig pryd ond roedd adborth drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant yn nodi nad oedd hyn yn ddigon e.e. nid yw’n caniatáu ar gyfer brecwast neu fyrbryd canol bore. Hefyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod NEWydd yn fedrus iawn yn darparu bwyd ardderchog a oedd yn bodloni gofynion maethol safonol. Byddai cynnydd i ddisgyblion oed uwchradd yn fuddiol.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod cynnydd mewn lwfans prydau ysgol am ddim wedi’i gynnwys o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, i gynyddu’r lwfans yn ddarostyngedig i fforddiadwyedd. Roedd yn croesawu’r pwysau costau yn Uned Cyfeirio Disgyblion Plas Derwen, a oedd yn dyheu i wella’r amgylchedd dysgu a darparu mwy o gymhwyster. Yngl?n â’r pwysau costau ar gyfer swyddi newydd, roedd hyn wedi’i ddosbarthu ar gyfer pob portffolio i ddarparu gwybodaeth ar eu hanghenion hanfodol ble cynhaliwyd proses gadarn i flaenoriaethu’r sawl oedd angen ystyriaeth wirioneddol. Roedd y pandemig wedi dwyshau rhai o’r bylchau ond byddai’r rhain yn cael eu hadolygu os na fyddai cyllideb gytbwys yn cael ei chyflawni’r flwyddyn nesaf.
Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog o amgylch y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim, a godwyd fel pryder gan bobl ifanc mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant. Roedd yn gwneud sylw ar bwysau costau a dywedodd y cytunwyd ar ... view the full Cofnodion text for item 18