Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Progress Report

Cyfarfod: 26/01/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 52)

52 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 86 KB

CyflwynoDiweddariad i'r Pwyllgor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.   Ers yr adroddiad diwethaf, ni chyhoeddwyd unrhyw adroddiadau Coch (sicrwydd cyfyngedig) a rhannwyd manylion ynghylch y tri adroddiad Oren/Coch (rhywfaint o sicrwydd).   Wrth olrhain camau gweithredu, gwelwyd cynnydd yn y nifer o gamau gweithredu hwyr a chytunwyd ar broses ar gyfer adrodd yn rheolaidd i Dîm y Prif Swyddog ac ymweliad gan Brif Archwilydd bob tri mis er mwyn mynd i’r afael â’r mater.   Yn gyffredinol, roedd dangosyddion perfformiad ar gyfer y gwasanaeth yn parhau’n gadarnhaol, er i ffactorau allanol gael rhywfaint o effaith.   Rhoddwyd diweddariad hefyd ar symudiadau o fewn y Cynllun presennol a oedd yn gwneud cynnydd da.

 

Gofynnodd Sally Ellis a oedd gwybodaeth ar adroddiadau Oren/Coch yn cynnwys manylion am drefniadau ac amlder adrodd.   Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gyfeirio’r adroddiadau Oren/Coch (yn ogystal â’r adroddiadau Coch) at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol ac y byddai’n sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Allan Rainford a’i eilio gan Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.