Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 42)

42 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai’r newid a gytunwyd i amseriad yr Adroddiad Cynnydd yn cael ei gynnwys ynghyd â’r adroddiad am gwynion y gofynnwyd amdano gan Sally Ellis.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford am oruchwyliaeth y Pwyllgor o baratoadau ar gyfer cyflwyno Cod Rheolaeth Ariannol newydd, byddai’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn adrodd yn ôl ar ôl trafod â chydweithwyr ar draws y rhanbarth.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Martin White a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, wrth ymgynghori â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.