Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 29)
29 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 83 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 29 PDF 60 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried, gan gynnwys datblygiadau ers yr adroddiad diwethaf.
Yn dilyn y diweddariad cynharach, awgrymodd Sally Ellis eitemau yn ymwneud â’r adroddiad cwynion blynyddol, a pharatoadau ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd sy’n effeithio ar y Pwyllgor.
Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai gofynion o ran hyfforddiant ar gyfer y Pwyllgor, a fyddai’n cael eu nodi yn y gweithdy ym mis Hydref, yn bwydo i mewn i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol; a
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.