Mater - cyfarfodydd
Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2020/21
Cyfarfod: 10/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 82)
82 Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21 PDF 109 KB
Pwrpas: Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit Wales Annual Audit Summary, eitem 82 PDF 216 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2020/21, oedd yn crynhoi darganfyddiadau’r gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad wedi dod i gasgliad cadarnhaol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol oedd yn weddill ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd yn ystod y cyfnod. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol ac roedd gwaith ar y gweill ar y ddau gynnig ar gyfer gwelliant yn codi o un o’r adolygiadau.
Cydnabu’r adroddiad effaith y pandemig ar y wybodaeth gymharol am berfformiad, pwyslais y Cyngor ar wella gwytnwch ariannol a threfniadau adferiad gwasanaethau, dan oruchwyliaeth y Pwyllgor Adferiad. Tynnwyd sylw at y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22 yn cynnwys y materion allweddol oedd yn wynebu bob Cyngor yn dilyn y pandemig.
Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol, yn unol â’r protocol adrodd, y byddai’r Cabinet yn cytuno ar ymateb y Cyngor cyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei ystyried, pan fyddai’r adroddiad rheoleiddio allanol blynyddol hefyd yn cael ei rannu, yn cynnwys manylion ar y camau gweithredu o’r cynigion ar gyfer gwella.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Williams a'i eilio gan y Cynghorydd Haydn Bateman.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys ac arsylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.