Mater - cyfarfodydd
Employment and Workforce Quarterly Update
Cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 35)
35 Diweddariad Chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu PDF 111 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Dashboard report, eitem 35 PDF 5 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu a’u dadansoddiad ar gyfer y chwarter cyntaf yn 2021/22.
Wrth grynhoi’r meysydd allweddol, tynnodd yr Uwch-Reolwr sylw at effaith y tueddiadau cyflogaeth sy’n newid o ganlyniad i’r pandemig a oedd yn cael eu monitro'n ofalus. Yn ogystal mae'r diweddariad yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu'r model gwerthuso ar gyfer 2022 i ganolbwyntio yn fwy ar werthoedd a llesiant, a’r ymgyrch recriwtio sydd yn digwydd yn yr Adran Gwasanaethau Stryd a Chludiant lle’r oedd disgwyl i allu lleihau gwariant ar weithwyr asiant yn y chwarter nesaf. Yn ogystal rhannwyd wybodaeth ar y lansiad llwyddiannus y rhaglen prentisiaeth ar gyfer 2021/22.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Haydn Bateman a Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1, 2021/22 hyd 30 Mehefin 2021.