Mater - cyfarfodydd
Annual Performance Report 2020/21
Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (eitem 50)
50 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 PDF 97 KB
Pwrpas: I rannu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 drafft sy’n amlinellu cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Annual Performance Report 2020/21, eitem 50 PDF 4 MB
- Enc. 2 for Annual Performance Report 2020/21, eitem 50 PDF 7 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn adolygu cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y’i hamlinellwyd ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2020/21.
Bu 2020/21 yn flwyddyn eithriadol i bob sefydliad, wrth iddyn nhw ymdopi â bygythiadau a heriau pandemig byd-eang. Ar y cyfan roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gyda thargedau 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u cyrraedd neu rhagorwyd arnyn nhw am y flwyddyn, gyda 48% arall wedi dangos gwelliant neu wedi aros yn sefydlog.
Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol gael ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Argymell i’r Cyngor y dylid mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/2021.