Mater - cyfarfodydd
Target 70 – A Review of Flintshire County Council’s Waste Strategy
Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (eitem 34)
34 Targed 70 – Adolygiad o Strategaeth Wastraff Cyngor Sir y Fflint PDF 142 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Strategaeth Wastraff ddiwygiedig a fydd yn galluogi’r Cyngor i gyflawni targed ailgylchu Llywodraeth Cymru 2024/25.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Target 70 – A Review of Flintshire County Council’s Waste Strategy, eitem 34 PDF 361 KB
- Enc. 2 for Target 70 – A Review of Flintshire County Council’s Waste Strategy, eitem 34 PDF 1 MB
- Enc. 3 for Target 70 – A Review of Flintshire County Council’s Waste Strategy, eitem 34 PDF 395 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Targed 70 – Adolygiad o Strategaeth Wastraff Cyngor Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd mai targed statudol perfformiad ailgylchu presennol oedd 64%. Roedd y Cyngor yn parhau i berfformio’n dda gyda’r perfformiad ailgylchu ar gyfer 2019/20 yn 65.58%. Fodd bynnag, roedd effaith y pandemig wedi arwain at newidiadau sylweddol ym maint gwastraff ac ailgylchu a gasglwyd o eiddo preswyl a’i adael yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref oedd wedi arwain at ostyngiad mewn perfformiad i 64.4% ar gyfer 2020/21. Roedd y newid hwnnw o ganlyniad i fwy yn gweithio gartref, cyfyngiadau ar symud a chau lleoliadau lletygarwch, ynghyd â chau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn gyson.
Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan ddiwedd 2025, y targed cenedlaethol nesaf i’w gyflawni oedd 70% erbyn 2024/25, felly mae’n bwysig bod y Cyngor yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys asesu effaith ar grynswth y gwastraff ar ôl y pandemig ac ystyried pa ymdrechion ychwanegol y gellid eu gwneud i hybu’r cyfraddau ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r targedau cenedlaethol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ym mis Gorffennaf 2021, yn dilyn adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi, roedd dau weithdy i’r Aelodau i gyd wedi eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa bresennol a thrafod pa newidiadau fyddai’r Cyngor yn gallu eu gweithredu i gyflawni’r targed ailgylchu cenedlaethol sef 70%.
Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion llawn yr adborth o’r seminarau ac argymhellion ar ailgylchu a darpariaethau gwasanaeth gwastraff yn y dyfodol.
Roedd y Cynghorydd Jones a Mullin yn croesawu cyflwyno’r gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol a fyddai’n cael ei groesawu gan lawer o drigolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth o’r seminarau Aelodau yn cael ei groesawu a’r gwaith a wnaed hyd yma i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod yr argymhellion ar ddarpariaethau gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y dyfodol yn cael ei gymeradwyo.