Mater - cyfarfodydd

Housing and Assets Portfolio Recovery Business Plan

Cyfarfod: 05/08/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 25)

25 Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Cynllun Busnes Adfer ar gyfer y Portffolio Tai ac Asedau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) Gynllun Busnes ar gyfer y portffolio Tai ac Asedau. Dywedodd bod yna 47 risg presennol (6 coch, 23 oren, 5 melyn 9 gwyrdd, 4 wedi cau) a dywedodd bod y prif risgiau yn ymwneud ag incwm rhenti, digartrefedd a chyflenwadau deunydd crai. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am y sefyllfa ddiweddaraf o ran gydag eiddo gwag. Dywedodd y Prif Swyddog bod yna tua 200 eiddo gwag yn stoc dai y Cyngor sydd angen cael eu hatgyweirio i gael eu defnyddio eto. Fe eglurodd bod y prinder presennol o gyflenwadau, deunyddiau a llafur adeiladu, a chostau cynyddol oherwydd y pandemig a Brexit yn debygol o gael effaith ar benderfyniadau yn y dyfodol i ymrwymo i gynlluniau cyfalaf a'r gallu i baratoi eiddo’n yn gyflym i’w defnyddio eto. Gan sôn am ystadau diwydiannol a masnachol y Cyngor, dywedodd mai ychydig iawn oedd yn wag ac roedd y galw ar y cyfan yn uchel iawn ym mhob deiliadaeth. 

 

Gan ymateb i sylwadau pellach gan y Cadeirydd am incwm rhenti, dywedodd y Prif Swyddog bod yr incwm a ragwelir a fydd yn cael ei golli ar gyfer ei stoc dai yn 2%, oedd wedi’i fodelu mewn i’r cynllun busnes.  Fe eglurodd bod hyn ar lefel uchel ar hyn o bryd a oedd yn effeithio ar y gwasanaeth Tai oedd yn cael ei ariannu’n benodol gan incwm rhenti.

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd bod effaith y cynnydd mewn eiddo gwag, a rhent ddim yn cael ei dalu ar sefyllfa ariannol y portffolio, yn cael ei atgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Thai. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Healey a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi cynnwys Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau;

 

 (b)     Rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor gan Gynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau;

 

 (c)      Atgyfeirio’r canlynol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau:-

 

·         effaith cynnydd mewn eiddo gwag a pheidio â thalu rhent ar sefyllfa ariannol y portffolio.