Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4)
Cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet (eitem 36)
36 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 4) PDF 134 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4), eitem 36 PDF 145 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4), eitem 36 PDF 25 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4), eitem 36 PDF 364 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4), eitem 36 PDF 93 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 4)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd mai dyma’r diweddariad manwl cyntaf ac roedd yn cymryd i ystyriaeth arian grant a hawliwyd drwy Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredu o £0.739miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)
- Rhagwelir y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £5.057 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.495m yn uwch na’r gyllideb;
· Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.978 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu’r sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawni arbedion effeithlonrwydd o fewn blwyddyn; arian wrth gefn heb ei glustnodi ac arian wrth gefn wedi ei glustnodi. Parheir i wneud hawliadau i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl y derbynnir grantiau penodol yn ystod y flwyddyn a byddai’r Cyngor yn ystyried rhoi hwb i arian wrth gefn ble bynnag bo’n bosibl. Ar dâl, roedd trafodaethau NJC yn parhau felly gallai gynyddu. Ar dâl i athrawon, roedd trafodaethau cenedlaethol yn parhau a byddai sylwadau parhaus yn cael eu gwneud ar gyfer cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau ychwanegol, er os byddai’n aflwyddiannus ac yn seiliedig ar gynnydd o 1.7%, byddai 0.7% yn cael ei ariannu drwy grant gyda’r 1% yn weddill yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y Cyngor ac ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r cyfleuster yn Yr Wyddgrug i helpu gyda lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ar gael erbyn yr haf 2022.
Gofynnodd yr Aelodau i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22 yn cael ei nodi a
(b) Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol.