Mater - cyfarfodydd

Penn Review of the Ethical Standards Framework

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 15)

15 Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol pdf icon PDF 90 KB

Rhybuddio'rPwyllgor am fodolaeth a llinell amser ar gyfer adolygiad o'r fframwaith cyfan ar gyfer hyrwyddo ymddygiad da sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Fframwaith Safonau Moesegol sy’n cael ei gynnal gan Richard Penn ar ran Llywodraeth Cymru, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, roedd cyfres o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ac ymateb iddynt yn yr hydref. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth oedd ei hangen o ganlyniad i’r adolygiad yn cael ei phasio cyn diwedd y cyfnod llywodraeth leol hwn. Byddai’r adroddiad ac ymateb LlC yn cael ei roi ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor pan fyddai wedi ei gyhoeddi.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad ac aros canlyniad yr adolygiad.