Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy (MTFS) and Budget 2022/23

Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 17)

17 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23 pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23 a’r strategaeth o ran cyllido’r gofynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y cam cyntaf o ddatblygu’r Gyllideb ar gyfer 2022/23 ochr yn ochr â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn dilyn sesiwn friffio’r Aelodau yn ddiweddar.Cafwyd cyflwyniad yn ymwneud â'r canlynol:

 

·         Y Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2022/23 - 2024/25

·         Pwysau Costau

·         Penderfyniadau’r Flwyddyn Flaenorol

·         Colli Incwm

·         Deddfwriaethol / Mynegeio

·         Datrysiad Cenedlaethol

·         Gofynion Cyllido Cenedlaethol – Dyfarniadau Cyflog – Ddim yn ymwneud ag Ysgolion/Ysgolion

·         Dewisiadau Strategol – Addysg/Gofal Cymdeithasol

·         Dewisiadau Eraill

·         Datrysiadau Pedair Rhan

·         Cynnal ein Safle

·         Y ‘llinell sylfaen’

·         Arbedion effeithlonrwydd ac Incwm hyd yma

·         Cenedlaethol a Chyllid

·         Y Camau Nesaf a Therfynau Amser

 

Roedd y rhagolwg a ddiweddarwyd yn dangos isafswm gofyniad cyllideb o £16.750m ychwanegol o adnoddau cyllid ar gyfer 2022/23; roedd hyn yn cynnwys yr effaith ariannol o ganlyniadau dyfarniad cyflog cronnol ar gyfer 2021/22 a 2022/23 ar gyfer gweithwyr ysgolion a’r rhai nad ydynt yn gweithio mewn ysgol. Roedd y datrysiadau pedair rhan ar arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth, trethiant lleol, cyllid y Llywodraeth a phwyso a mesur risg.Gan ystyried yr holl amcangyfrifon o ran cost, dewisiadau o ran y gyllideb a ffactorau sy’n cyfyngu, roedd angen cynnydd a fyddai o leiaf 4.5% yn y Grant Cynnal Refeniw i gydnabod cost dyfarniadau cyflog a chefnogaeth drwy gyfnod adfer hir. Roedd yr holl Gynghorau yng Nghymru yn ymgysylltu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru (LlC) o ran y gofynion hyn.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu eu pwysau o ran costau a’u cynigion o ran arbedion effeithlonrwydd yn ystod misoedd Medi a Hydref cyn yr adroddir ar y sefyllfa gyffredinol i’r Pwyllgor hwn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am bwysigrwydd ymwneud Aelodau drwy gydol proses y gyllideb a’r angen am ystyried y dyheadau a nodwyd yn ofalus.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y dadansoddiad yn atgyfnerthu’r angen am setliad ariannol tecach gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Richard Jones y pwynt y dylai unrhyw benderfyniadau cenedlaethol a fyddai’n cael effaith ariannol gael ei ategu gan y cyllid perthnasol.Nododd fod balansau gwasanaethau wedi cynyddu’n sylweddol a gofynnodd p’run ai y gellid defnyddio rhai o’r symiau a ddygwyd ymlaen i ymdrin â phwysau costau ar gyfer y flwyddyn os nad oeddent yn cael eu defnyddio i’r un diben.

 

Ar y pwynt cyntaf, siaradodd y Prif Weithredwr am y pwysau cenedlaethol cynyddol sy’n codi o benderfyniadau deddfwriaethol nad oedd ganddynt yn aml unrhyw gyllid penodol wedi ei ddyrannu ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl geisiadau i ddwyn ymlaen wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet a bod y mwyafrif wedi ymrwymo ar gyfer y diben gwreiddiol a fwriadwyd yn ystod dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod swyddogion yn ail adolygu balansau gwasanaethau i sefydlu a allai unrhyw rai gael eu dyrannu yn rhywle arall. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol na allai unrhyw swm  ...  view the full Cofnodion text for item 17