Mater - cyfarfodydd
Digital Flintshire
Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 20)
20 Sir y Fflint Digidol PDF 113 KB
Pwrpas: Adolygu a diweddaru Strategaeth Ddigidol bresennol y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Digital Flintshire 2017-22, eitem 20 PDF 2 MB
- Enc. 2 - Digital Flintshire 2021-26, eitem 20 PDF 203 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Sir y Fflint Digidol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i adolygu Strategaeth Ddigidol y Cyngor ‘Sir y Fflint Ddigidol’ cyn ei gyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth wedi ei diweddaru i adlewyrchu amcanion hirdymor a newidiadau cenedlaethol, fel y trafodwyd mewn sesiynau briffio Aelodau yn ddiweddar.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Arnold Woolley ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom a ganmolodd y sesiynau briffio.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
a) Croesawu’r cynnydd a wnaed mewn cyflawni amcanion Sir y Fflint Ddigidol;
b) Cytuno fod y strategaeth a adnewyddwyd yn nodi’r dyheadau cywir ar gyfer datblygu gwasanaethau digidol ymhellach; a bod y pwyllgor yn
c) Hyderus y bydd y strategaeth ddiwygiedig yn helpu i sicrhau y bydd gan bawb fynediad cyfartal i sgiliau, dyfeisiau a chysylltedd digidol.