Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Interim)

Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 19)

19 Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2021/22 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa dros dro canol blwyddyn monitro’r gyllideb ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd hwn yn adroddiad eithrio ar amrywiadau sylweddol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2021/22 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd am y flwyddyn.

 

Ymysg y prif ystyriaethau roedd parhad ceisiadau ôl-weithredol i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) hyd at Fedi 2021, gan nodi’r ansicrwydd yngl?n ag a fyddai hyn yn cael ei ymestyn pe byddai cyfyngiadau’n parhau.Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â risgiau agored gan gynnwys effaith y dyfarniad cyflog, Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Chronfeydd Wrth Gefn gan gynnwys symiau wedi’u clustnodi.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod y crynodeb cyffredinol yn adlewyrchu sefyllfa dros dro gadarnhaol, roedd yna nifer o risgiau sylweddol o ganlyniad i’r ansicrwydd yn ymwneud â pharhad cyllid LlC a chyfraniadau i ddyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.

 

O ran lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y gallai’r pwyllgor ysgrifennu at LlC i ailadrodd diffyg rheolaeth y Cyngor dros y pwysau hyn o ran costau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr holl Gynghorau yng Nghymru yn ymgysylltu ar y cyd gyda LlC ar bwysau cenedlaethol neu bwysau a arweinir gan y farchnad o ran costau drwy rannu tystiolaeth a dadansoddiad manwl ar effaith materion allweddol gan gynnwys Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai datblygu gwasanaethau o fewn Sir y Fflint yn helpu i leihau’r nifer o Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.Dywedodd fod trafodaethau cadarn yn cael eu cynnal gyda LlC ar ddyfarniadau cyflog i athrawon.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (dros dro) 2020/21, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion y mae’n dymuno eu codi gyda’r Cabinet.