Mater - cyfarfodydd

North Wales Economic Ambition Board Annual Report & Q4 Performance

Cyfarfod: 06/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 14)

14 Adroddiad Blynyddol a Pherfformiad Chwarter 4 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pdf icon PDF 88 KB

I gyflwyno Chwarter 4 (Ion-Maw) o adroddiad Bargen Dwf, Portffolio’r Gofrestr Risg wedi’i Ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol Portffolio Swyddfa Rheoli ar gyfer 2020-21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr - Mawrth) y Fargen Dwf, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolios ar gyfer 2020-21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac atgoffodd yr Aelodau mai set o ymyriadau tymor canolig i’r hirdymor yw Bargen Dwf Gogledd Cymru sy’n gysylltiedig â chryfderau Gogledd Cymru, gan nodi Economi Werdd a Chynhwysol yn benodol a diwydiannau blaengar craidd. Dywedodd ei bod yn rhaglen ranbarthol sy’n cynnig cydbwysedd rhwng y Gorllewin a Dwyrain Canol y rhanbarth. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau, ac estynnodd wahoddiad i’r ddau roi cyflwyniad ar y cyd i’r Pwyllgor ar Fargen Dwf Gogledd Cymru, a oedd yn ymwneud â’r prif bwyntiau canlynol:

 

  • Portffolio’r Fargen Dwf:
  • y 5 Rhaglen:
    • Rhaglen Ddigidol
    • Rhaglen Tir ac Eiddo
    • Rhaglen Ynni
    • Arloesi yn y Rhaglen Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth
    • Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth
  • Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 (Ionawr-Mawrth 2021) Bargen Dwf Gogledd Cymru
  • Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2020-21

 

Cyfeiriodd Paul Shotton at lacio cyfyngiadau Covid a gofynnodd a ellid dwyn unrhyw rai o’r prosiectau ymlaen cyn 2023. Gofynnodd hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect uwchsgilio.  Esboniodd y Rheolwr Gweithrediadau fod y gwaith ar gyflawni’r prosiect yn mynd yn ei flaen mor gyflym â phosibl, serch hynny, prosiectau cyfalaf cymhleth tymor canolig/hirdymor oedden nhw a byddai’n cymryd amser i’w datblygu a’u hadeiladu. Esboniodd y byddem yn debygol o weld buddiannau’r prosiectau gweithredol cyntaf o 2023 ymlaen, serch hynny, disgwylir i’r cyfnodau adeiladu ddechrau tua diwedd 2021/dechrau 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’r holl fuddsoddiad cyfalaf angen y sgiliau a’r bobl gywir i wasanaethu’r buddsoddiad a soniodd am y gwaith gyda’r bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, diwydiannau, colegau ac ysgolion, o ran y sgiliau a’r cyfleoedd gwaith sydd eu hangen i gadw gwerth yn yr economi leol.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Hughes pa strategaethau sydd yn eu lle i hyrwyddo’r Fargen Dwf ymhlith y cyhoedd. Esboniodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod gwefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac y byddai’n cael ei lansio yn y misoedd nesaf. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr a manylion cyswllt ar gyfer pob prosiect. Yn ogystal â’r wefan, bydd hunaniaeth brand hefyd yn cael ei lansio. Soniodd am yr angen i ddylanwadu ar bobl ifanc a’u hysbrydoli ynghylch y cyfleoedd a’r swyddi uchel eu gwerth y byddai’r Fargen Dwf yn eu creu. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn ehangu ei rôl yn y dyfodol er mwyn cael effaith ehangach y tu hwnt i’r Fargen Dwf. Yn nhermau ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Fargen Dwf, soniodd y byddai diddordeb mawr mewn rhai prosiectau a dywedodd eu bod wedi ymgysylltu’n sylweddol gyda’r sector busnes a’r sector academaidd a byddai hynny’n treiddio trwodd.  Dywedodd fod Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn rhanbarth cydlynol ac uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a dywedodd fod angen magu diddordeb ymhlith  ...  view the full Cofnodion text for item 14