Mater - cyfarfodydd
Amendments to the Planning Code of Practice
Cyfarfod: 05/07/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 4)
4 Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio PDF 92 KB
I adolygu Cod Ymarfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - PCP with tracked changes, eitem 4 PDF 356 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i adolygu’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Rhoddodd drosolwg o’r newidiadau a oedd wedi eu atodi i’r adroddiad, a fyddai angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad a’r Cyngor Llawn.
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol er cysondeb:
· Defnyddio ‘Cadeirydd’ drwy gydol y ddogfen (yn hytrach na ‘Cadeirwr’/’Cadeiryddes’)
· Defnyddio'r un geiriad ar gyfer adrannau 5.5 a 5.8 er mwyn disgrifio Aelodau sydd ddim yn gallu cymryd rhan wrth drafod eitem yr oedd ganddynt safbwynt a bennwyd ymlaen llaw.
· Defnyddio’r teitl cywir ar gyfer y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn adrannau 11 a 12.
Ar y sail yna, cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhelliad ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio a nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, ynghyd â’r newidiadau ychwanegol a godwyd gan y Pwyllgor hwn.