Mater - cyfarfodydd

Schedule of Remuneration for 2021/22

Cyfarfod: 22/07/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 27)

27 Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar Gyfer 2021/22 pdf icon PDF 95 KB

I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2021/22 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2021/22. Cynghorodd fod y Cyngor angen darparu Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol yn flynyddol a bod yr Atodlen ar gyfer 2021/22 wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd yn rhaid ei gyhoeddi a’i anfon i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yna dair swydd gyfetholedig yn wag ar hyn o bryd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Derbyniwyd enwebiadau a byddai etholiad yn cael ei gynnal yn fuan. 

 

Gofynnwyd i’r Cyngor awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin i gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Shotton.Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2021/22 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; ac

 

 (b)      Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.