Mater - cyfarfodydd
Prudential Indicators - Actuals 2020/21
Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 21)
21 Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2020/21 PDF 103 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020/21 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i'r Cyngor, o dan y Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf Mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Ariannol), fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o Ddangosyddion Darbodus. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020/20 o gymharu â'r amcangyfrifon a bennwyd ar gyfer:
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb Ariannol
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd;
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad;