Mater - cyfarfodydd

Childcare Sufficiency Assessment

Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 18)

18 Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pdf icon PDF 145 KB

Darparu asesiad o'r ymateb strategol a gweithredol i sicrhau gofal plant digonol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd y gorgyffwrdd, roedd yr eitem hon wedi’i chynnwys yn y cyflwyniad blaenorol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant oedd yn adroddiad statudol yn cael ei adolygu bob blwyddyn a byddai adroddiad llawn ar gael y flwyddyn nesaf.

 

Soniodd y Cynghorydd Mackie am 27 lle gofal plant cofrestredig o’i gymharu â diwedd y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i chwistrelliad o arian grantiau.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith parhaus ac ymrwymiad i ddarparu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol.