Mater - cyfarfodydd
Childcare Sufficiency Assessment
Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 18)
18 Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant PDF 145 KB
Darparu asesiad o'r ymateb strategol a gweithredol i sicrhau gofal plant digonol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn y Sir.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Childcare Sufficiency Assessment Progress Report, eitem 18 PDF 553 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
Cofnodion:
Oherwydd y gorgyffwrdd, roedd yr eitem hon wedi’i chynnwys yn y cyflwyniad blaenorol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant oedd yn adroddiad statudol yn cael ei adolygu bob blwyddyn a byddai adroddiad llawn ar gael y flwyddyn nesaf.
Soniodd y Cynghorydd Mackie am 27 lle gofal plant cofrestredig o’i gymharu â diwedd y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i chwistrelliad o arian grantiau.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith parhaus ac ymrwymiad i ddarparu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol.