Mater - cyfarfodydd

Care Inspectorate Wales (CIW) Annual Performance Review Letter

Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 29)

29 Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Gwiriad Sicrwydd pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        I nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol, asesiad AGC o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2020/21 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ganfyddiadau’r adroddiad ar Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn reoleiddiwr annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Gofal a Gofal Plant yng Nghymru.   Roedd y Gwiriadau Sicrwydd wedi eu cynnal yn rhithiol rhwng 19 a 23 Ebrill 2021.    Roedd prif drywyddau ymchwilio AGC yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, sef:

 

·         Pobl - Llais a Rheolaeth

·         Atal

·         Lles

·         Partneriaeth ac Integreiddio

 

 Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ei bod yn her cael wyth Arolygwr yn dod i mewn yn ystod Pandemig a’i fod yn gobeithio y gallai’r Pwyllgor weld o’r Cynllun Gweithredu eu bod wedi gwrando ar beth yr oedd yr arolygwyr wedi’i ddweud a gweithredu ar eu sylwadau i wella, dysgu ac adlewyrchu ar beth oedd angen ei wneud.  Dywedodd fod y camau a nodwyd i gyd yn wyrdd ac eithrio Recriwtio Gweithlu a oedd yn oren oherwydd cyflenwad annigonol o Weithwyr Cymdeithasol cymwys profiadol o fewn Gwasanaethau Plant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yn ymwneud â mater diogelu, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod hyn yn ymwneud ag un achos a sicrhaodd y Pwyllgor fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig.

 

Ychwanegodd eu bod wedi edrych ar eu systemau a symud capasiti staff fel eu bod yn gallu cadw uwchben yr atgyfeiriadau a gwneud penderfyniadau byw a chofnodi sefyllfaoedd.    Yn ogystal, roedd hyfforddwr a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i gadarnhau ac roeddent yn cydymffurfio â’u prosesau ond yn gwneud awgrymiadau mewn rhai ardaloedd a weithredwyd.   Hefyd, eglurodd nad oedd nawr yn bosibl aildrefnu cyfarfod os nad oedd asiant yn gallu mynychu a bod yn rhaid iddynt anfon adroddiad.  Fodd bynnag, os oedd yn bosibl osgoi hyn a bod yn gorfod ei ohirio yna roedd angen ei gymeradwyo gan Reolwr Gwasanaeth.

 

Roedd y Cadeirydd ac Aelodau eraill yn awgrymu y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr at holl staff yn eu llongyfarch am eu gwaith.    Soniodd y Cynghorydd Marion Bateman am y gwaith anhygoel yr oedd Swyddogion Chwarae ac Aura Sports wedi ei wneud ynghyd â Theatr Clwyd ac awgrymodd y dylid eu gwahodd i un o gyfarfodydd eu Pwyllgor.   Roedd y Cadeirydd, gyda chytundeb y Pwyllgor, yn awgrymu y dylid anfon llythyr diolch at Theatr Clwyd. 

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Pwyllgor am eu sylwadau y byddai’n eu trosglwyddo i staff a chroesawodd y cynnig i Theatr Clwyd fynychu cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham a oedd Coed Duon yn parhau i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster cam-i-lawr.   Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach gan fod yna lai o alw ar ôl blwyddyn ond roedd yn gam cadarnhaol i’w ddefnyddio yn fuan yn y pandemig. 

 

Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn diolch i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth.  Ychwanegodd y Cynghorydd Cunningham bod y cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor yn eithriadol ac eisiau gwneud beth sydd orau i Sir y Fflint.

 

Cynigiwyd argymhellion yn yr  ...  view the full Cofnodion text for item 29