Mater - cyfarfodydd

Member Workshops Briefings and Seminars Update

Cyfarfod: 30/06/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 7)

7 Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau pdf icon PDF 77 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth 2021, a’r rhai sydd i ddod.  Eglurodd y bydd y wybodaeth ddiweddaraf o ran presenoldeb mewn digwyddiadau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a thu hwnt yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.   Gwahoddodd Aelodau i gysylltu ag ef gydag unrhyw awgrymiadau yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno ar gyfer digwyddiadau datblygu yn y dyfodol.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd gyda Gweithdai Aelodau, Briffiadau a Seminarau ers yr adroddiad diwethaf yn cael ei nodi; ac

 

(b)       Os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, eu bod yn cysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.