Mater - cyfarfodydd
Housing Rent Income
Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 26)
Pwrpas: Cyflwyno sefyllfa derfynol diwedd y flwyddyn ar gyfer 2020/21 a diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau dyledion presennol ar gyfer 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ddiweddariad gweithredol ar berfformiad o ran casglu incwm rhent tai ar ddiwedd blwyddyn 2020/21, yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran casgliadau yn 2021/22.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod alldro 2020/21 wedi dangos ôl-ddyledion rhent o £1.854m o gymharu â £1.815m yn y flwyddyn flaenorol – cynnydd mewn ôl-ddyledion o £39k. Roedd y data’n gadarnhaol o’i gymharu â rhagolygon cynharach ar gyfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn arbennig ar amser pan fo’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser.
Rhoddodd hefyd wybodaeth am gyflwyniad y cynllun Seibiant Dyledion yng Nghymru a Lloegr o fis Mai 2021 sydd i'w groesau oherwydd y bydd yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod o amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion, yn cynnwys ôl-ddyledion rhent. Roedd yr amddiffyniadau’n cynnwys oedi’r rhan fwyaf o gamau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi'r adroddiad gan nodi'r sefyllfa diwedd blwyddyn o £1.854m perthnasol i ôl-ddyledion rhent yn 2020/21.